Amdanom ni

Ffurfiwyd ClwydAlyn yn 1978 fel Landlord Cymdeithasol Cofrestredig anelusennol. Rydym yn arwain y blaen o ran ymdrin â ‘Phroblemau Astrus’ fel tlodi, diffyg cyfartaledd iechyd a digartrefedd.

Erbyn hyn rydym yn rheoli dros 6,300 o gartrefi ac yn cyflogi tua 770 o bobl sy’n gweithio gyda’i gilydd i gyflawni ein cenhadaeth i drechu tlodi. Mae ein cartrefi a’n gwasanaethau yn cynnwys gofal a gofal nyrsio; tai â chefnogaeth i bobl sydd wedi bod yn ddigartref; a darparu llawer o gartrefi o safon uchel – gan sicrhau bod ein rhenti yn fforddiadwy ac yn cynnig gwerth am arian. Rydym hefyd yn cynnig perchenogaeth cartref cost isel, gwasanaethau rheoli prydlesi a thai ar rent canolradd ac ar rent y farchnad. Rydym yn gweithio ar draws ardal saith awdurdod lleol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru (Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy, Wrecsam, Powys, Gwynedd ac Ynys Môn). Trosiant y Grŵp yw £49m.