Y Swydd
Aelod o’r Bwrdd a Chadeirydd Newydd
Penodwyd Cris McGuinness yn ddiweddar yn Gadeirydd newydd ar ClwydAlyn a bydd yn cymryd y swydd yn ffurfiol ym Medi 2023. Mae Cris yn Gyfrifydd Siartredig a hyfforddwyd gan KPMG sydd wedi treulio ei gyrfa yn gweithio ym maes tai cymdeithasol, gydag ychydig o wyriadau bychain - un i weithio gyda cheiswyr lloches ac un arall i helpu i ehangu trafnidiaeth gyhoeddus ym Manceinion Fwyaf.
Ar hyn o bryd mae Cris yn Brif Swyddog Ariannol i Riverside lle mae wedi bod yn gyfrifol am bopeth yn ymwneud â chyllid a datblygu ers 2018.
Yn wreiddiol o Dde Cymru, mae Cris yn angerddol am gydraddoldeb, amrywiaeth a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol lle gall hi.
Diben – Pennu ar y cyd beth yw diben, gweledigaeth a gwerthoedd, cyfeiriad strategol, ac egwyddorion craidd ClwydAlyn
Cyfrifoldebau Allweddol
HANFODOL
Angerdd am ein diben a’n cenhadaeth i drechu tlodi
Dealltwriaeth gadarn o swyddogaeth aelod anweithredol
Y gallu i feddwl yn strategol, gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, cyfuno gwybodaeth gymhleth, pwyso a mesur dewisiadau, datblygu polisi a mesur risgiau.
Hyrwyddo safonau moesegol uchel gan gadw parch y rhai yr ydym yn eu gwasanaethu trwy ddangos empathi.
Dealltwriaeth gadarn o anghenion a dyheadau ein cymunedau lleol, cadw golwg ar faterion lleol a rhanbarthol a newidiadau a all effeithio ar ein cwsmeriaid, staff, rhanddeiliaid a chymunedau
Y gallu i ddeall gwybodaeth ariannol a gwerthuso’r risgiau cysylltiedig.
Y gallu i ymdrin â materion anodd yn gyson a diplomataidd.
Y gallu i feddwl yn annibynnol a chynnig her a chefnogaeth i’r un graddau.
Y gallu i fyw ein gwerthoedd o ymddiriedaeth, gobaith a charedigrwydd
Cymryd rhan effeithiol yn y trafodaethau, llunio penderfyniadau a chynllunio gwaith y Grŵp, gan osod amcanion a monitro perfformiad mewn cymhariaeth â nhw.
Ychwanegu gwerth at ddeialog y Bwrdd.
DYMUNOL
Profiad o’r cyd-destun Tai a Rheoleiddiol yng Nghymru a dealltwriaeth gadarn o’r problemau y maent yn eu hwynebu.
Mae’n bwysig i ni bod y Bwrdd yn adlewyrchu barn ein cymunedau amrywiol, rydym yn gwybod bod Bwrdd yn llawn o bobl o gefndiroedd a chymunedau amrywiol yn ein gwneud yn well am wneud yr hyn yr ydym yn ei wneud. Mae hyn yn golygu llunio Bwrdd mwy cynhwysol ac amrywiol a hyrwyddo cydraddoldeb i bawb sut bynnag yr ydych yn edrych, o ble bynnag yr ydych yn dod a phwy bynnag yr ydych yn ei garu. Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bawb.
Byddem yn croesawu ymgeiswyr â phrofiad a neu sgiliau yn y meysydd canlynol yn neilltuol:
- Rheoli ac arwain Tai Cymdeithasol a Thai â Chefnogaeth
- Adeiladu masnachol
- Archwilio
- Iechyd a Diogelwch
- Cyfreithiol
- TG
Profiad o lunio cysylltiadau cynhyrchiol a rhagweithiol gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid a gweithredu gyda lefel uchel o graffu cyhoeddus ac atebolrwydd.
ARIANNOL A LLYWODRAETHU
Sicrhau bod ClwydAlyn yn gwneud defnydd effeithlon ac effeithiol o’i adnoddau i gyflawni amcanion strategol, gan gynnal ein hyfywedd ariannol tymor hir, a diogelu asedau.
Sicrhau bod Swyddogion yn cydymffurfio â’r Rheolau, y Cynllun Dirprwyo a’r Gorchmynion Sefydlog.
Sicrhau bod llywodraethu, ymrwymiadau cyfreithiol a rheoleiddiol yn cael eu cynnal yn effeithlon
CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL Y BWRDD AR Y CYD
Gallu gweithio fel rhan o dîm sy’n gweithredu’n effeithiol, ennyn parch, gwrando ar eraill a dylanwadu arnynt.
Deall ac eiriol dros ein cwsmeriaid a’n cymunedau. Deall ein cwsmeriaid presennol a rhai’r dyfodol, eu hanghenion, heriau a’u dyheadau. Hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant.
Sicrhau cydymffurfio â rheoliadau a deddfwriaeth berthnasol a’r gyfraith.
Sicrhau safonau uchel o ran llywodraethu corfforaethol a chywirdeb ariannol
Craffu a sicrhau bod camau i gywiro yn digwydd, pan fydd angen.
Rhoi cefnogaeth a her i’r swyddogion.
Paratoi yn briodol ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd a Phwyllgorau, sesiynau hyfforddi, a digwyddiadau eraill cysylltiedig yn gyson.
Cyfrannu at a rhannu cyfrifoldeb am benderfyniadau’r Bwrdd a Phwyllgorau.
Gweithredu fel llysgennad i ClwydAlyn.
Penodi’r Prif Weithredwr, pennu telerau ac amodau cyflogaeth a monitro perfformiad
Cymeradwyo penodiad y Tîm Gweithredol
CYSYLLTIADAU ALLWEDDOL
Prif Weithredwr a’r Tîm Gweithredol - Mae perthynas gref a chadarnhaol rhwng y Prif Swyddog Gweithredol a’r Swyddogion Gweithredol yn hanfodol er budd perfformiad effeithiol y Bwrdd
Rhanddeiliaid - Hyrwyddo gwaith ClwydAlyn a chynnal perthynas gadarnhaol gyda’r tîm gweithredol, staff, tenantiaid, ac asiantaethau eraill a rhanddeiliaid sy’n ymwneud â’n gweithgareddau.
EICH YMRWYMIAD
- Ymrwymiad i’n gweledigaeth, gwerthoedd, a diben
- Ymrwymiad i’n tenantiaid, gan sicrhau eu bod yn ganolog i bopeth a wnawn.
- Parchu amrywiaeth, cynhwysiant, a gwerthfawrogi’r cyfraniad y mae gwahaniaeth yn ei roi
- Rhoi amser i baratoi, mynychu a chyfrannu at gyfarfodydd y Bwrdd a Phwyllgorau yn rhithwir ac wyneb yn wyneb
- Ymrwymiad i ddyddiau allan Strategol, hyfforddiant a datblygiad
- Cynrychioli ClwydAlyn i hybu ei genhadaeth
- 6 cyfarfod Bwrdd yn flynyddol
- Mae ein Pwyllgorau yn cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn
- Ymweliadau blynyddol â’n Cartrefi
EIN CYFARFODYDD
Mae gennym ddull cymysg o gynnal ein cyfarfodydd trwy Teams, ac yn ein swyddfeydd yn Llanelwy. Cynhelir dyddiau allan strategol oddi ar y safle yn un o’n cynlluniau neu mewn lleoliad addas.
CYDNABYDDIAETH ARIANNOL
Mae’r swydd yn cael £5,175 y flwyddyn.
HYFFORDDIANT
Mae datblygiad proffesiynol parhaus a chynrychiolaeth mewn cynadleddau, seminarau, hyfforddiant ffurfiol/anffurfiol yn hanfodol. Yn ychwanegol cynhelir arfarniad blynyddol gan y Cadeirydd.
Gallwch ymgeisio mewn nifer o ffyrdd:
Anfonwch eich CV neu ffilm fer at Rachel.storr-barber@clwydalyn.co.uk Rhaid derbyn ceisiadau erbyn 7 Mai 2023. Gwahoddir yr ymgeiswyr i gyfweliad gydag aelodau’r Bwrdd, ein Pwyllgor Preswylwyr a’r grŵp staff.
Cynhelir y cyfweliadau ar 22 Mai 2023. Os hoffech chi sgwrs anffurfiol am y swydd ffoniwch Clare Budden, Prif Swyddog Gweithredol ar 07909 893520. Am gael gwybod rhagor am ein cenhadaeth a sut beth yw bod yn rhan o’r tîm yna cliciwch yma