Gyda’n gilydd i drechu tlodi
Dim tlodi. Dychmygwch pa mor wahanol fyddai Cymru petai gennym ddim tlodi. Pawb yn cael mynediad at dai o safon uchel, fforddiadwy. Yn gallu fforddio cynhesu eu cartrefi yn iawn a fforddio’r bwyd sydd arnynt ei angen i gadw’n iach. Efallai ei fod yn swnio’n anghredadwy, ond yn ClwydAlyn nid ydym yn meddwl hynny. Credwn y gallwn ac y dylem droi hyn yn ffaith i gymaint o bobl ag sy’n bosibl.
Mae ein cenhadaeth yn uchelgeisiol, ond trwy weithio gyda phartneriaid allanol, credwn y gallwn daclo tlodi. Mae’r pwysau costau byw presennol mor fuan ar ôl dwy flynedd o bandemig, yn golygu bod y straen ar bawb yn mynd yn anos ymdopi ag o. Mae gennym gyfrifoldeb clir i’n preswylwyr a staff i’w cefnogi trwy’r amseroedd anodd yma. Mae ein cenhadaeth yn bwysicach nag erioed.
Rydym yn gymaint mwy na darparwr tai cymdeithasol. Rydym yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Gogledd Cymru fel cyflogwr a buddsoddwr gan ddefnyddio cymaint o gwmnïau lleol ag sy’n bosibl a chael y gwerth cymdeithasol mwyaf am bob punt y byddwn yn ei gwario.
Mae cyflymder y newid yn y sector tai yn cynnig cyfleoedd a heriau sylweddol. Rydym yn sefydliad ystwyth sy’n addasu i newid yn rhagweithiol. Rydym yn herio meddwl ac rydym yn ddewr ac agored yn ein sgyrsiau. Rydym yn greadigol ac yn llawn dychymyg wrth oresgyn heriau newydd, gan ganfod cyfleoedd newydd a gwneud y mwyaf ohonynt yn ein cenhadaeth i drechu tlodi, gan hefyd gyflawni gwasanaethau rhagorol i’n preswylwyr. Seilir ein strategaeth ar arweiniad a rheolaeth ariannol gref, gan gyflawni gwarged blynyddol y cytunwyd arno i’w fuddsoddi yn ein cartrefi a’n gwasanaethau. Rydym yn cyflawni ein cyfamodau ariannol, a gwerth am arian.