Welcome

Diolch i chi am fynegi diddordeb yn ClwydAlyn a’n swyddi gwag ar gyfer Aelodau’r Bwrdd.

Rydym yn Gymdeithas Dai uchelgeisiol ac yn cael ein gyrru gan ein gwerthoedd a’n cenhadaeth. Credwn nad yw’n iawn bod cymaint o ddiffyg cyfartaledd a thlodi ar draws ein rhanbarth, ac rydym yn gwybod bod hyn yn cael effaith ar bob agwedd o fywydau pobl. Fe wnaethom wneud safiad cryf i ddod â throi allan i ben bedair blynedd yn ôl ac rydym yn defnyddio ein harian a’n dylanwad i wneud popeth allwn ni i gefnogi’r rhai sy’n profi tlodi ac i hyrwyddo newid ar draws ein gwlad.

Rydym hefyd yn ddatblygwr tai newydd mawr gyda dros 600 ar waith ar hyn o bryd. Rydym yn ymfalchïo mewn adeiladu cartrefi o safon uchel; pob un yn cael ei adeiladu i gyrraedd EPC A o leiaf; gan eu gwneud yn fforddiadwy i’n tenantiaid i fyw ynddynt a helpu i leihau allyriadau carbon. Rydym wedi adeiladu nifer o gynlluniau tai blaengar sy’n defnyddio adeiladwyr lleol o Gymru; fframiau pren wedi eu hadeiladu yng ngharchar y Berwyn a’r pympiau ffynhonnell aer a thechnoleg batri diweddaraf ac ati. Mae 80% o’n rhaglen yn dai cymdeithasol, ond rydym hefyd wedi adeiladu cartrefi ar gyfer rhent canolradd a phrynu gyda chymorth.

Rydym yn berchen ar 6,300 o gartrefi o oedrannau a mathau amrywiol ac rydym wedi ymrwymo i raglen eang o ôl-osod dros y 10 mlynedd nesaf.

Mae datblygu llais cryf i breswylwyr yn bwysig ac mae ein strwythur llywodraethu wedi ei adnewyddu yn sicr yn cefnogi hyn. Mae preswylwyr yn ganolog i bob penderfyniad a wnawn ac yn dylanwadu ar yr hyn yr ydym yn ei wneud a sut yr ydym yn ei wneud. Rydym yn croesawu adborth hyd yn oed pan fydd yn anghyfforddus ac rydym am wneud popeth allwn ni i fodloni disgwyliadau preswylwyr.

Rydym yn credu’n gryf ym manteision cydweithio a gweithio mewn partneriaeth. Rydym wedi datblygu perthynas gadarnhaol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, y bydd Aelodau’r Bwrdd newydd am eu cefnogi a’u hannog.

 Mae gennym gyfradd gredyd gref a digon o fenthyciadau ar gyfraddau llogau sefydlog i ariannu ein rhaglen ddatblygu am yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rydym wedi cael y dyfarniad rheoleiddiol uchaf gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllid a darparu gwasanaeth, ac nid oes gennym unrhyw weithredoedd gwella ffurfiol o ymweliadau rheoleiddiol diweddar Arolygaeth Gofal Cymru.

Mae ein blaenoriaethau ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf yn cynnwys; ailadeiladu ein helw ar weithrediadau ar ôl covid; datblygu cynllun fforddiadwy y gellir ei gyflawni i leihau ein hallyriadau carbon; sicrhau bod ein holl breswylwyr yn byw mewn cartrefi diogel, o safon uchel y gallant fforddio eu cynhesu; bodloni gofynion y drefn Diogelwch Adeiladau a buddsoddi rhagor i ymdrin ag effeithiau ac achosion tlodi yn ein cymunedau.

Rydym am fod yn enghraifft o arfer da o ran cynhwysiant ac amrywiaeth fel cyflogwr a darparwr gwasanaeth. Rydym ymhlith y 30 cyflogwr uchaf ar draws y Deyrnas Unedig i deuluoedd sy’n gweithio ac yn cynnig lle cyffrous a hwyliog i’n staff weithio gyda phecyn da o fuddion a hyblygrwydd i reoli eu gwaith a’u bywydau personol hefyd. Mae lefelau bodlonrwydd ein staff yn uchel, ac rydym wedi cyfnewid nifer o bolisïau â chyfarwyddyd gan adael i’n Rheolwyr weithredu mewn ffordd hyblyg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn; gan fodloni anghenion busnes o ran ansawdd y gwasanaeth a pherfformiad.

 Mae gennym Fwrdd cryf a thalentog, ac mae’r holl Aelodau yn cynnig gwahanol sgiliau a phrofiadau. Cefnogir y Bwrdd gan bedwar Pwyllgor a Thîm Gweithredol profiadol llawn ysgogiad, a staff ymroddedig, brwdfrydig a thalentog. Mae’r wybodaeth isod yn rhoi darlun manylach i chi o’r Grŵp. Byddem yn disgwyl i Aelodau newydd y Bwrdd hefyd fod yn aelod o 1 Pwyllgor o leiaf.

Rydym mewn lleoliad canolog ar hyd coridor Gogledd Cymru, 35 munud o Fangor a Wrecsam ac awr o Fanceinion. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi datblygu ein dull o hyrwyddo gweithio ystwyth yn sylweddol ac rydym yn disgwyl parhau â dull cymysg o gyfarfodydd yn y dyfodol. Rydym yn gwmni balch iawn o Gymru a byddem yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg, ac aelodau o gymunedau lleiafrifol ac amrywiol.

Rwyf yn ildio fy lle ar ddiwedd Medi yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ar ôl gwasanaethu am bron i naw mlynedd gyda llawer o lwyddiannau i ymfalchïo ynddynt; ac wedi llwyddo i benodi’r Cadeirydd nesaf mae’n amser cyffrous i ClwydAlyn.

Os ydych yn angerddol am ein cenhadaeth a’n gwerthoedd, yna rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael clywed gennych.

Cofion cynnes

Stephen Porter
Cris McGuiness

Cadeirydd ClwydAlyn
Cadeirydd Newydd ClwydAlyn