Sut i Ymgeisio
Diolch yn fawr iawn i chi am eich diddordeb yn y swydd.
Rydym wedi ymrwymo i lunio sefydliad iach, bywiog a chynhwysol sy’n trin pobl gyda pharch ac yn creu cyfleoedd i bawb.
Rydym yn neilltuol yn annog ceisiadau gan unigolion sydd o gefndiroedd amrywiol sy’n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd. Croesewir y rhai sy’n gallu siarad Cymraeg yn neilltuol bydd cryfhau sgiliau Cymraeg y Bwrdd, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ddwyieithrwydd, yn helpu i ddarparu gwell gwasanaethau i bawb.
Gallwch ymgeisio mewn nifer o ffyrdd:
Y dull mwy traddodiadol - anfon CV cyfredol sy’n dangos hanes eich gyrfa’n llawn a datganiad yn esbonio pam bod gennych ddiddordeb yn y swydd hon a’r sgiliau a’r profiad y gallwch eu dwyn i’r swydd.
Anfonwch ffilm fer atom - uchafswm o 5 munud yn esbonio pam bod gennych ddiddordeb yn y swydd hon a’r sgiliau a’r profiad y gallwch eu dwyn i’r swydd.
Gallwch ymgeisio mewn nifer o ffyrdd:
Anfonwch eich CV neu ffilm fer at Rachel.storr-barber@clwydalyn.co.uk Rhaid derbyn ceisiadau erbyn 7 Mai 2023. Gwahoddir yr ymgeiswyr i gyfweliad gydag aelodau’r Bwrdd, ein Pwyllgor Preswylwyr a’r grŵp staff.
Cynhelir y cyfweliadau ar 22 Mai 2023. Os hoffech chi sgwrs anffurfiol am y swydd ffoniwch Clare Budden, Prif Swyddog Gweithredol ar 07909 893520. Am gael gwybod rhagor am ein cenhadaeth a sut beth yw bod yn rhan o’r tîm yna cliciwch yma